Cynulliad Cenedlaethol CymruDescription: Heather logo portrait

Y Pwyllgor Busnes

Medi 2013

Diwygio Rheolau Sefydlog: Cydsyniad Deddfwriaethol i Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat

Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae’r adroddiad yn cynnig diwygio Rheol Sefydlog 29 i gynnwys darpariaeth i gydsynio â Biliau Preifat perthnasol y DU, a chyflwyno Rheol Sefydlog newydd, sef Rheol Sefydlog 30A, yn ymwneud â rhoi cydsyniad deddfwriaethol i offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Mae’r newidiadau y cytunodd y Pwyllgor Busnes arnynt i’w gweld yn Atodiadau A ac C, ac mae’r cynnig ar gyfer Rheol Sefydlog newydd i’w weld yn Atodiadau B a D.

Cefndir

3.        Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adroddiad yn dwyn y teitl, ‘Ymchwiliad i’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU’. Roedd nifer o argymhellion y Pwyllgor yn galw am ddiwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad, ac felly roedd angen i’r Pwyllgor Busnes ymateb iddynt.

4.        Ym mis Ebrill, cyflwynodd y Pwyllgor Busnes newidiadau i Reolau Sefydlog 29 a 30 a fyddai’n rhoi argymhellion 5, 6 a 7 yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar waith. Cytunodd y Cynulliad yn ffurfiol ar y newidiadau hyn ar 1 Mai 2013.

5.        Yn yr adroddiad hwnnw, nododd y Pwyllgor Busnes y byddai, maes o law, yn ystyried diwygiadau i’r Rheolau Sefydlog a fydd yn gweithredu argymhelliad 11 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch rhoi cydsyniad i offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Nododd hefyd y byddai’n ystyried drachefn a ellid cynnwys Biliau Preifat y DU o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 29.

6.        Ar 18 Mehefin a 2 Gorffennaf, ystyriodd y Pwyllgor Busnes gynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog newydd, sef Rheol Sefydlog 30A, yn ymwneud â rhoi cydsyniad deddfwriaethol i offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Ystyriodd y Pwyllgor Busnes hefyd gynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 29 er mwyn cynnwys darpariaeth i roi cydsyniad i Filiau Preifat perthnasol y DU.

7.        Ar 16 Gorffennaf, derbyniodd y Rheolwyr Busnes y newidiadau arfaethedig o ran egwyddor. O gofio y byddai’r weithdrefn a gyflwynir gan Reol Sefydlog 30A yn newydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i fynd ati ymhen blwyddyn i adolygu’r modd y mae’r weithdrefn yn gweithio. Mae’r Rheol Sefydlog yn cyflwyno gweithdrefn debyg i honno a ddefnyddir ar gyfer Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29, ond mewn perthynas ag offerynnau statudol yn hytrach na Biliau.

8.        Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd, o ran egwyddor, i ddiwygio Rheol Sefydlog 29, er mwyn cynnwys Biliau Preifat y DU sy’n gwneud darpariaeth berthnasol o fewn ei chwmpas.

Argymhelliad 11

9.        Galwodd argymhelliad 11 yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddiwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad:

·         er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ofyn am gydsyniad y Cynulliad i unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion y DU yn unig sy’n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; ac

·         er mwyn ymestyn y gweithdrefnau ar gyfer ystyried is-ddeddfwriaeth mewn modd sy’n ymdebygu i’r weithdrefn dros dro y cytunodd y Pwyllgor Busnes arni’n ddiweddar ar gyfer ystyried Gorchmynion y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus.

10.     Yn dilyn trafodaethau rhwng Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes a swyddogion Llywodraeth Cymru, ystyriwyd y problemau ymarferol a fyddai’n codi pe bai angen rhoi cydsyniad i bob darn o is-ddeddfwriaeth y DU sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad.Byddai hefyd angen i’r Swyddfa Gymreig gydsynio â newid o’r fath.

11.     Mae Canllaw ar Ddatganoli 9 (DGN9), fodd bynnag, eisoes yn nodi y dylid ceisio cytundeb y Cynulliad ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion y DU sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad, fel Gorchmynion a wneir o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus neu’r Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol. Hyd yma, mae’r Cynulliad wedi defnyddio gweithdrefn dros dro y cytunodd y Pwyllgor Busnes arni wrth ystyried Gorchmynion o’r fath.

12.     Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid ffurfioli’r weithdrefn dros dro drwy ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.

Y weithdrefn arfaethedig

13.     Mae’r weithdrefn arfaethedig, fel y’i gwelir yn Atodiadau A a B, yn debyg iawn i’r weithdrefn dros dro, a seiliwyd ar fodel Rheol Sefydlog 29 ar gyfer rhoi cydsyniad i Filiau’r DU.

14.     Dyma brif bwyntiau’r weithdrefn:

·         Bydd y Llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn ymwneud ag Offeryn Statudol (drafft) perthnasol cyn pen tridiau wedi iddo gael ei osod yn Senedd y DU;

·         Ynghyd â Memorandwm, bydd y Llywodraeth yn gosod copi o’r Offeryn Statudol (drafft) ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol (fel Memoranda Esboniadol, Asesiadau Effaith Reoliadol etc) a gaiff eu paratoi gan Weinidogion y DU;

·         Caiff pob Memorandwm ei gyfeirio’n awtomatig at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’w ystyried. Os bydd o’r farn bod hynny’n angenrheidiol, caiff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wahodd pwyllgorau eraill i ystyried Gorchymyn;

·         Caiff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac unrhyw bwyllgor arall y mae’n gofyn iddo wneud hynny, gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn pen 35 diwrnod (ac eithrio cyfnodau o doriad) ar ôl gosod y Memorandwm;

·         Ar ôl gosod Memorandwm, caiff unrhyw Aelod gyflwyno Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol yn gofyn i’r Cynulliad gydsynio â’r ddarpariaeth berthnasol yn yr Offeryn Statudol (drafft) perthnasol;

·         Nichaiff y cynnig ei drafod yn y Cyfarfod Llawn nes bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac unrhyw bwyllgor arall wedi cyflwyno adroddiad.

15.     Mae’r Rheolau Sefydlog arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth osod memorandwm ar gyfer pob Offeryn Statudol ac Offeryn Statudol drafft sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Biliau Preifat y DU

16.     Yn ei gyfarfod cyhoeddus ddydd Llun 18 Mawrth 2013, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a fyddai’n gweithredu argymhellion 5, 6 a 7 yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Bwerau Gweinidogion Cymru yn neddfau’r DU.

17.     Yn y cyfarfod hwnnw, clywodd y Pwyllgor gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth nad oedd y cytundeb rhynglywodraethol sydd ei angen i roi’r newidiadau arfaethedig i gyd ar waith yn effeithiol wedi dod i law hyd yma. Mae hyn yn ymwneud â’r cynigion i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau ym Miliau’r DU sy’n newid pwerau Gweinidogion Cymru, ac ymestyn y darpariaethau ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol i gynnwys Biliau Preifat y DU.

18.     Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu gweithdrefn ryngseneddol ar gyfer yr achlysuron prin hynny pan fydd Biliau Preifat y DU yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

19.     Yn dilyn trafodaethau rhwng Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes a’n cydweithwyr yn San Steffan, penderfynwyd y gall awdurdodau’r Tŷ roi gwybod i’r Cynulliad am unrhyw Filiau Preifat perthnasol yn fuan yn ystod y broses, gan ganiatáu i’r Llywydd osod Memorandwm gerbron y Cynulliad.

20.     Mae Rheol Sefydlog ddrafft 29.2B yn esbonio sut y bydd y Llywydd yn mynd ati i osod memorandwm yn ymwneud â Bil Preifat perthnasol y DU. Ni fyddai memorandwm y Llywydd yn nodi a oedd yn credu ei bod yn briodol gwneud y ddarpariaeth ai peidio.

21.     Fel yn achos Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol eraill, byddai modd i unrhyw Aelod gyflwyno cynnig cydsynio, a byddai Aelod a fyddai’n dymuno gwneud hynny’n cyflwyno’i femorandwm ei hun o dan Reol Sefydlog arfaethedig 29.2C gan gynnwys y rhesymau dros ystyried ei bod yn briodol gwneud y ddarpariaeth honno.

Cam i’w gymryd

22. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog ar 24 Medi 2013 a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo’r cynigion fel y’u nodir yn Atodiadau B a D.

Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a Wneir gan Weinidogion y DU

Rheol Sefydlog newydd

Is-ddeddfwriaeth a Wneir gan Weinidogion y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Cynulliad ar ei chyfer

30A.1 Yn Rheol Sefydlog 30A, ystyr “offeryn statudol perthnasol” yw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad  (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad).

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn diffinio ‘offeryn statudol perthnasol’ fel offeryn sy’n gwneud darpariaeth i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Mae Canllaw ar Ddatganoli 9 eisoes yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i geisio cydsyniad y Cynulliad ar unrhyw offeryn statudol sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Mae’r Rheol Sefydlog hon, felly, yn creu proses i’r Cynulliad fedru ystyried a chydsynio ag offerynnau statudol o’r fath.  

 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

Pennawd newydd

30A.2    Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad offeryn statudol”) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol perthnasol y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na thri diwrnod fel rheol ar ôl ei osod gerbron Senedd y DU.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog newydd yn nodi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth berthnasol y DU, fel y mae’n ei wneud yn achos Biliau o dan Reol Sefydlog 29.

Cynigir terfyn amser tynnach ar gyfer gosod memorandwm yma, o’i gymharu â Rheol Sefydlog 29. Y rheswm dros hyn yw bod yr amserlen ar gyfer cymeradwyo Offerynnau Statudol yn dynnach nag ydyw ar gyfer Biliau.

30A.3   Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol osod memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o’r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas â’r offeryn statudol hwnnw.

Rheol Sefydlog newydd

Rhaid i’r Llywodraeth osod memorandwm p’un a yw’n bwriadu cyflwyno cynnig ai peidio. Fodd bynnag, dim ond os ydynt yn bwriadu cyflwyno cynnig y caiff aelodau eraill osod memorandwm.

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn cyd-fynd â’r weithdrefn newydd a nodir yn Rheol Sefydlog 29.

30A.4 Rhaid i femorandwm cydsyniad offeryn statudol:

(i)         crynhoi amcan yr offeryn statudol;  

(ii)        pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) yr offeryn statudol yn gwneud darpariaeth berthnasol;  

(iii)      esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng yr offeryn statudol;

(iv)       os gosodwyd memorandwm cydsyniad offeryn statudol eisoes mewn perthynas â’r un darpariaethau yn yr un offeryn statudol, nodi sut a pham y mae’r memorandwm newydd yn wahanol i’r memorandwm blaenorol.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog newydd ddrafft yn cynnwys yr un darpariaethau ag a nodir yn Rheol Sefydlog 29.3 mewn perthynas â Biliau’r DU, yn ogystal â gofynion y weithdrefn dros dro y cytunodd y Pwyllgor Busnes arni mewn perthynas â Gorchmynion y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus.

30A.5 Ar yr un pryd ag y bydd yn gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol, rhaid i’r llywodraeth osod yr offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft ac unrhyw ddeunydd ategol, gan gynnwys Memoranda Esboniadol ac Asesiadau Effaith Reoliadol, a gaiff eu paratoi gan Weinidogion y DU.

Rheol Sefydlog newydd

Roedd angen gosod dogfennau o’r fath yn ôl gofynion y weithdrefn dros dro y cytunodd y Pwyllgor Busnes arni mewn perthynas â Gorchmynion y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus a chânt eu defnyddio gan y pwyllgor wrth iddo graffu ar y memorandwm. 

30A.6   Caiff y pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21.7 (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 30A fel “y pwyllgor cyfrifol”) ystyried unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol. 

Rheol Sefydlog newydd

Yn unol â’r weithdrefn dros dro, mae’r Rheol Sefydlog ddrafft hon yn golygu y caiff unrhyw Femoranda a gyflwynir o dan y Rheol Sefydlog hon eu cyfeirio’n awtomatig at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r weithdrefn dros dro ac yn adlewyrchu’r amserlenni tynnach sydd eu hangen i adrodd ar Orchmynion o’u cymharu â Biliau. 

Drwy gyfeirio Offerynnau Statudol yn awtomatig at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, caniateir i’r pwyllgor a’i staff ddechrau gweithio ar y memorandwm ar unwaith, heb orfod aros i’r Pwyllgor Busnes ei gyfeirio atynt.  

30A.7   Caiff y pwyllgor cyfrifol wahodd pwyllgorau eraill hefyd i ystyried memorandwm.

Rheol Sefydlog newydd

Yn unol â’r weithdrefn dros dro, caiff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - os yw o’r farn bod hynny’n angenrheidiol - wahodd pwyllgorau eraill i ystyried memorandwm a gyflwynwyd o dan y Rheol Sefydlog hon.

30A.8   Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ac unrhyw bwyllgor arall sy’n ystyried y memorandwm gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn pen 35 diwrnod ar ôl i’r memorandwm gael ei osod, oni bai bod y Pwyllgor Busnes yn sefydlu ac yn cyhoeddi amserlen wahanol sy’n ymestyn y cyfnod hwn.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r weithdrefn dros dro’n nodi 35 diwrnod, ond caiff y Llywodraeth ddewis ymestyn y cyfnod hwn a chaiff y pwyllgor wneud cais am estyniad. 

Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn caniatáu i’r Pwyllgor Busnes ymestyn y cyfnod drwy gyhoeddi amserlen, ond ni all ei fyrhau.

30A.9 Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 30A.8, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn tanlinellu nad yw’r 35 diwrnod yn cynnwys cyfnodau pan na fydd y Cynulliad yn eistedd.

 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.10 Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 30A.3, gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad offeryn statudol”) sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn offeryn statudol perthnasol.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog newydd hon yn cynnwys yr un darpariaethau â Rheol Sefydlog 29.6.

Roedd y weithdrefn dros dro’n gorfodi’r llywodraeth i osod cynnig yr un pryd ag yr oedd yn gosod y memorandwm. O gofio’r newidiadau a wnaed i Reol Sefydlog 29 ers hynny, fodd bynnag, ystyriwyd y byddai’n briodol i’r darpariaethau newydd yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth ddilyn yr un egwyddorion â’r rheini ar gyfer Biliau.

30A.11  Rhaid i gynnig cydsyniad offeryn statudol sydd wedi’i gyflwyno gael ei ystyried gan y Cynulliad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae hon yn cynnwys yr un ddarpariaeth ag a nodir yn Rheol Sefydlog 29 mewn perthynas â Biliau’r DU.

30A.12 Ni chaniateir trafod cynnig cydsyniad offeryn statudol nes bod y pwyllgor cyfrifol ac unrhyw bwyllgor arall sy’n ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol wedi cyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 30A.8.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r weithdrefn dros dro’n nodi 40 diwrnod ar ôl gosod y Gorchymyn h.y. pum diwrnod yn fwy na sydd gan y pwyllgor i gyflwyno adroddiad.  Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn cynnwys yr un ddarpariaeth ag a nodir yn Rheol Sefydlog 29 drwy nodi na ellir ystyried y cynnig nes bydd y pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad.

Cydymffurfio â Deddfau Seneddol

30A.13 Os yw’r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau cydsyniad y Cynulliad i offeryn statudol wedi’u nodi mewn Deddf Seneddol, caiff y Pwyllgor Busnes addasu’r weithdrefn a nodir yn Rheol Sefydlog 30A yn ôl yr angen, er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf  berthnasol. 

Rheol Sefydlog newydd

Nid oes yr un o’r tri achos a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011, Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, neu Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, yn nodi sut y dylai’r Cynulliad roi ei gydsyniad i Orchmynion drafft a gyflwynir gan Weinidogion y DU. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd Deddf yn y dyfodol yn gwneud hynny.

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn caniatáu i’r Pwyllgor Busnes addasu’r weithdrefn os oes angen cydymffurfio â gofynion Deddf o’r fath.

NEWIDIADAU CANLYNIADOL

RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Swyddogaethau

21.7     Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried y canlynol a chyflwyno adroddiadau arnynt:

(i)       unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28;

(ii)      pa mor briodol yw darpariaethau mewn Biliau’r Cynulliad ac mewn Biliau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol; 

(iii)     unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol a osodir mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol o dan Reol Sefydlog 30A; canlyniadau gorchmynion drafft o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaeth a Rheoliadau 2006 ar gyfer deddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i ystyriaeth yn y Cynulliad ;

(iv)     defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn; 

(v)      unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru; neu

(vi)     deddfwriaeth ddrafft sy’n destun ymgynghoriad.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r newid hwn yn ehangu pŵer galluogi pwyllgor a ddynodwyd o dan Reol Sefydlog 21 i ystyried ac adrodd ar offerynnau statudol y mae angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer o dan unrhyw Ddeddf Seneddol, ac nid dim ond y rhai a wneir o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. 

Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a Wneir gan Weinidogion y DU

Is-ddeddfwriaeth a Wneir gan Weinidogion y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Cynulliad ar ei chyfer

30A.1 Yn Rheol Sefydlog 30A, ystyr “offeryn statudol perthnasol” yw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad).  

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.2 Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad offeryn statudol”) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol perthnasol y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na thri diwrnod fel rheol ar ôl ei osod gerbron Senedd y DU.

30A.3 Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol osod memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o’r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol mewn perthynas â’r offeryn statudol hwnnw.

30A.4 Rhaid i femorandwm cydsyniad offeryn statudol:

(i)        crynhoi amcan yr offeryn statudol;

(ii)       pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) yr offeryn statudol yn gwneud darpariaeth berthnasol;      

(iii)      esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng yr offeryn statudol;

(iv)   os gosodwyd memorandwm cydsyniad offeryn statudol eisoes mewn perthynas â’r un darpariaethau yn yr un offeryn statudol, nodi sut a pham y mae’r memorandwm newydd yn wahanol i’r memorandwm blaenorol.

30A.5 Ar yr un pryd ag y bydd yn gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol, rhaid i’r llywodraeth osod yr offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft ac unrhyw ddeunydd ategol, gan gynnwys Memoranda Esboniadol ac Asesiadau Effaith Reoliadol, a gaiff eu paratoi gan Weinidogion y DU.

30A.6 Caiff y pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheol Sefydlog 21.7 (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 30A fel “y pwyllgor cyfrifol”) ystyried unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol.    

30A.7 Caiff y pwyllgor cyfrifol wahodd pwyllgorau eraill hefyd i ystyried memorandwm.

30A.8 Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol ac unrhyw bwyllgor arall sy’n ystyried y memorandwm gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn pen 35 diwrnod ar ôl i’r memorandwm gael ei osod, oni bai bod y Pwyllgor Busnes yn sefydlu ac yn cyhoeddi amserlen wahanol sy’n ymestyn y cyfnod hwn.

30A.9 Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 30A.8, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

30A.10 Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 30A.3, gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad offeryn statudol”) sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn offeryn statudol perthnasol.

30A.11  Rhaid i gynnig cydsyniad offeryn statudol sydd wedi’i gyflwyno gael ei ystyried gan y Cynulliad.

30A.12 Ni chaniateir trafod cynnig cydsyniad offeryn statudol nes bod y pwyllgor cyfrifol ac unrhyw bwyllgor arall sy’n ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol wedi cyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 30A.8.

Cydymffurfio â Deddfau Seneddol

30A.13 Os yw’r gweithdrefnau ar gyfer sicrhau cydsyniad y Cynulliad i offeryn statudol wedi’u nodi mewn Deddf Seneddol, caiff y Pwyllgor Busnes addasu’r weithdrefn a nodir yn Rheol Sefydlog 30A yn ôl yr angen, er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf  berthnasol.   

NEWIDIADAU CANLYNIADOL

RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Swyddogaethau

21.7   Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried y canlynol a chyflwyno adroddiadau arnynt:

(i)     unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad ac eithrio is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig o dan Reol Sefydlog 28;

(ii)    pa mor briodol yw darpariaethau mewn Biliau’r Cynulliad ac mewn Biliau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol; 

(iii)  unrhyw femorandwm cydsyniad offeryn statudol a osodir mewn perthynas ag offeryn statudol perthnasol o dan Reol Sefydlog 30A;

(iv)   defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn; 

(v)    unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru; neu

(vi)    deddfwriaeth ddrafft sy’n destun ymgynghoriad.

Atodiad C

RHEOL SEFYDLOG 29 - Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Cynulliad ar ei chyfer

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

29.1     Yn Rheol Sefydlog 29, ystyr “Bil perthnasol” yw Bil sy’n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru: 

(i)         at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad); neu

(ii)       sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Nid oes angen ei ddiwygio.

29.2   Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad deddfwriaethol”) mewn perthynas â’r canlynol:

(i)      unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ii)     unrhyw Fil Aelod Preifat yn Senedd y DU a oedd yn Fil perthnasol pan y’i cyflwynwyd ac sy’n dal yn Fil perthnasol ar ôl y cyfnod diwygio cyntaf yn y Tŷ y’i cyflwynwyd ynddo, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl iddo gwblhau’r cyfnod hwnnw; 

(iii)    unrhyw Fil a gyflwynir yn Senedd y DU sydd (neu a fyddai), yn rhinwedd gwelliannau:

(a)     a dderbynnir; neu

(b)     a gyflwynir gan un o Weinidogion y Goron neu a gyhoeddir gydag enw un o Weinidogion y Goron yn eu cefnogi,

yn y naill Dŷ neu’r llall, yn gwneud darpariaeth berthnasol am y tro cyntaf neu y tu hwnt i derfynau unrhyw gydsyniad a roddwyd o’r blaen gan y Cynulliad, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl i’r gwelliannau gael eu cyflwyno neu eu derbyn.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

29.2A   Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil perthnasol osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o’r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil hwnnw.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

29.2B  Rhaid i’r Llywydd osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas ag unrhyw Fil Preifat y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno.

Cynnwys Rheol Sefydlog newydd.

Mae’r Rheol Sefydlog newydd yn darparu i’r Llywydd osod memorandwm yn ymwneud ag unrhyw Fil Preifat y DU sy’n Fil perthnasol.

Yn dilyn trafodaethau â’n cydweithwyr yn San Steffan, penderfynwyd y gall awdurdodau’r Tŷ roi gwybod i’r Cynulliad am unrhyw Filiau Preifat perthnasol yn fuan yn ystod y broses, gan ganiatáu i’r Llywydd osod Memorandwm gerbron y Cynulliad. Yn unol â Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol eraill, byddai modd i unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i roi cydsyniad. Yna, byddai’r Cynulliad yn rhoi gwybod i Senedd y DU ei fod yn cydsynio â hynny drwy gyfrwng llythyr gan y naill glerc i’r llall.

29.2C  Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio’r Llywydd, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Preifat perthnasol osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod y Llywydd wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Preifat hwnnw.

Cynnwys Rheol Sefydlog newydd.

Mae’r Rheol Sefydlog newydd yn caniatáu i Aelodau eraill gyflwyno cynnig yn ymwneud â Bil Preifat y DU, ond rhaid iddynt osod memorandwm eu hunain yn gyntaf, yn unol â’r drefn ar gyfer Biliau perthnasol eraill o dan Reol Sefydlog 29.2A. Rhaid i’r memorandwm a osodir gan yr Aelod esbonio pam yr ystyrir ei bod yn briodol gwneud y ddarpariaeth honno a’i gwneud drwy gyfrwng y Bil.

29.3     Rhaid i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol:

(i)            crynhoi amcanion polisi’r Bil; 

(ii)           pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol;                                                                             

(iii)          esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil;

(iv)          os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth berthnasol sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, nodi’r weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod odani; a

(v)           os gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol eisoes mewn perthynas â’r un darpariaethau yn yr un Bil, nodi sut a pham y mae’r memorandwm newydd yn wahanol i’r memorandwm blaenorol.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

29.3A  Nid yw Rheol Sefydlog 29.3(iii) yn gymwys i femorandwm a osodir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 29.2B.

Rheol Sefydlog newydd

Diben y memorandwm a osodir gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 29.2B fydd rhoi gwybod i’r Cynulliad am y Bil Preifat a’i ddarpariaethau perthnasol. Nid mater i’r Llywydd fydd barnu a yw’n briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil. Yr Aelod sy’n penderfynu cyflwyno cynnig fydd yn barnu ar hyn, a rhaid i’r Aelod hwn esbonio yn y memorandwm o dan 29.2C pam y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud y ddarpariaeth honno a’i gwneud drwy gyfrwng y Bil

29.4     Rhaid i’r Pwyllgor Busnes:

(i)            fel rheol gyfeirio unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried; a

(ii)           sefydlu a chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

29.5     [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Cynulliad ar 01 Mai 2013]

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

Nid oes angen ei ddiwygio.

29.6     Ar ôl i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog 29.2A a 29.2C, gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad deddfwriaethol”) sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn Bil perthnasol.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

Diwygiwyd y Rheol Sefydlog i gynnwys Rheol Sefydlog newydd 29.2C.

29.7     Rhaid i gynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi’i gyflwyno gael ei ystyried gan y Cynulliad.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

29.8     Pan gaiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i’w ystyried gan bwyllgor neu bwyllgorau yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, ni chaniateir trafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig naill ai:

(i)            nes bod y pwyllgor neu’r pwyllgorau wedi cyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4; neu

(ii)           nes y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i bwyllgor gyflwyno adroddiad arno unol â Rheol Sefydlog 29.4.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Atodiad D